Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (100)v5 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Gyflwyno'r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) (60 munud) |
4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar gyfeiriad Rheoleiddio a Chymwysterau yng Nghymru yn y dyfodol - TYNNWYD YNOL |
5. Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Cyflenwad Dŵr ac Ansawdd Dŵr) (Ffioedd Arolygu) 2012 (15 munud) NDM5110 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r
Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Cyflenwad Dŵr ac Ansawdd
Dŵr) (Ffioedd
Arolygu) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn
drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2012.
|
6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) (60 munud) NDM5111 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru). Gosodwyd Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 9 Gorffennaf 2012. Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 23 Tachwedd 2012. Dogfennau Ategol
Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
|
7. Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) (5 munud) NDM5112 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
|
8. Dadl ar y Gyllideb Flynyddol (60 munud) NDM5109 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25: Yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-2014 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ar 27 Tachwedd 2012. Troednodyn: Yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol: 1. Y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; 2. Yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; 3. Cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig; 4. Cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa yn y cynnig; a 5. Cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau i’w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c). Darparwyd y wybodaeth atodol ganlynol i’r Aelodau: · Nodyn Esboniadol ar y newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Flynyddol. Dogfennau Ategol
Y Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol
2013-2014 Papur Ymchwil: Cyllideb Derfynol 2013-14 – Y Gwasanaeth Ymchwil
|
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 5 Rhagfyr 2012